Sut GREUWYD Y cynllun
Dilynwyd proses benodol a manwl wrth ddatblygu Cynllun Yr Wyddfa, gyda ymgynghoriadau eang ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
sesiynau galw heibio cymunedol
Er mwyn cael dealltwriaeth fanwl o'r heriau a chyfleoedd blaenoriaethol at gyfer cymunedau'r ardal, fe gynhaliwyd sesiynau galw heibio yn Llanberis, Waunfawr a Beddgelert.
Cliciwch yma er mwyn gweld adroddiad sy'n crynhoi y sesiynau yma.
seminar agored
Fe wnaeth y seminar yma ddod a'r gymuned leol a rhanddeiliaid at ei gilydd er mwyn trafod sut i fanteisio ar gyfleoedd a sut i reoli heriau a materion mewn modd priodol. Roedd oddeutu hanner o'r 100 a fynychwyd y seminar eisoes wedi mynychu y sesiynau galw heibio ym mis Hydref, gyda'r hanner arall yn cymryd rhan am y tro cyntaf. Roedd y seminar yn galluogi i bobl adlewyrchu at y Bartneriaeth ac i archwilio syniadau am beth ddylai amcanion a phwrpas y Bartneriath fod, a godwyd yn ystod y seisynau galw heibio gan bobl leol, perchnogion tir/tirfeddianwyr, grwpiau defnyddio a phobl eraill oedd a diddordeb.
Er mwyn gweld yr adroddiad o'r seminar, sydd yn rhoi trosolwg o'r digwyddiad a sylwadau'r mynychwyr, cliciwch yma.
Grwpiau ffocws
Yn ystod Tachwedd 2016 fe gynhaliwyd pump grwp ffocws gyda amrywiaeth eang o randdeiliaid, er mwyn edrych yn fanwl at y ffordd ymlaen at yr holl faterion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Mae'r adroddiadau o'r grwpiau ffocws wedi eu cynnwys isod.
Adroddiad Grwp Ffocws 1: Economi Wledig a Chymunedau
Adroddiad Grwp Ffocws 2: Isadeiledd a Gwasanaethau
Adroddiad Grwp Ffocws 3: Gwybodaeth a Thwristiaeth
Adroddiad Grwp Ffocws 4: Gweithgareddau Awyr Agored
Adroddiad Grwp Ffocws 5: Gwarchodfa Natur Genedlaethol
ymgynghoriad ar y cynllun draft
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar-lein at Gynllun Partneriaeth Yr Wyddfa ym mis Gorffennaf 2017. Yn ychwanegol i hyn fe gynhaliwyd sesiwn galw heibio yn Llanberis at gyfer unrhyw un oedd eisiau rhoi adborth wyneb yn wyneb. Yn ychwanegol i hyn fe gynhaliwyd cyfarfod penodol at gyfer tirfeddianwyr a chynhadledd at gyfer rhanddeiliaid lefel uchel (gweler lluniau isod).
Mae'r adroddiad sy'n crynhoi'r ymgynghoriad ar gael isod. Mae'n cynnwys crynodeb o'r newidiadau gytunwyd i'r Cynllun yn dilyn yr ymgynghoriad:
Adroddiad ar yr ymgynghoriad terfynol
Llyniau o Gynhadledd Yr Wyddfa 2017
Llyniau gan y ffotograffydd Ray Wood