Partneriaeth Yr Wyddfa

Grŵp a sefydlwyd i greu ac yna gweithredu cynllun rheoli newydd at gyfer Yr Wyddfa yw Partneriaeth Yr Wyddfa. Mae'r Bartneriaeth yn dod a swyddogion sy'n cynrychioli'r sefydliadau a'r tirfeddiannwyr sy'n gyfrifol am reoli'r mynydd yn nhermau llawr gwlad at ei gilydd. Mae hyn yn amrywio o fod yn waith cadwraeth a rheoli llwybrau i dwristiaeth, ffermio ac achub mynydd.


Rydym yn dechrau ar gyfnod diddorol o ran rheoli lleoedd arbennig fel Yr Wyddfa, ar adeg pan fo dealltwriaeth, parch a chonsensws ar y ffordd ymlaen yn allweddol. Ni all unrhyw unigolyn na sefydliad oresgyn yr heriau a manteisio ar y cyfleoedd sy’n codi yn yr ardal ar ben ei hun, felly fel cyrff, busnesau ac unigolion, sy’n gweithredu yn yr ardal, rydym wedi dod at ein gilydd i greu cynllun ar y cyd. Bydd y cynllun yn llywio’r ffordd yr ydym yn gweithio yn yr ardal yn y dyfodol.
— Emyr Williams, Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Ein gweledigaeth ar gyfer Yr wyddfa

Rydym am gyd-weithio er mwyn gofalu am harddwch a threftadaeth eithriadol Yr Wyddfa, ac i sicrhau ecosystem iach a chynhyrchiol, lle bo gwasanaethau integredig yn gweithio gyda’i gilydd ar gyfer anghenion hir-dymor yr amgylchedd, cymunedau a threftadaeth lleol a phrofiad ymwelwyr. Bydden yn gweithredu er mwyn diogelu eu gymeriad unigryw, gan sicrhau bod pobl leol yn cael eu cynnwys gan gyfrannu at eu budd ac at gyfer budd y gymuned leol. Ein nod yw i bob person barchu, mwynhau, deall a gofalu am y mynydd a’i hamgylchedd.
— Partneriaeth Yr Wyddfa