Ap Llwybrau Yr Wyddfa

Lawrlwythwch yr app o’r App Store neu o Google Play.

Lawrlwythwch yr app o’r App Store neu o Google Play.

Dyluniwyd yr ap gan Bartneriaeth Yr Wyddfa sy’n hawdd i’w ddefnyddio, yn gweithio gyda GPS ac yn cynnwys mapiau manwl sy’n dilyn taith yr ymwelydd wrth iddynt gerdded ar unrhyw un o’r 6 prif lwybr i’r copa. Mae hyn yn gweithio all-lein, sy’n golygu nad oes angen cyflenwad i’r we neu signal ffôn tra’n ei ddefnyddio ar y mynydd.

Mae pob map yn cynnwys cyfuchliniau fel y gallai’r defnyddiwr gadw golwg ar ddarnau anodd wrth iddynt gerdded. Fe fydd yr ap yn gymorth o ran cynllunio ymlaen llaw cyn ymweld ag yn cynnwys cyngor pwysig fydd yn galluogi ymwelwyr i’n cynorthwyo i barchu, gofalu, a gwarchod y mynydd, yr amgylchedd o’i amgylch, a’r cymunedau lleol.

Prosiect sbwriel Yr Wyddfa

Mae creu parthau di-blastig yn bwynt gweithredu yng nghynllun rheoli partneriaeth y Parc Cenedlaethol - Cynllun Eryri, sy’n mynd law yn llaw gyda blaenoriaeth Partneriaeth Yr Wyddfa i fynd i’r afael â’r broblem sbwriel yn yr ardal. Felly, rydym wedi dechrau trafodaethau cynnar gyda nifer o asiantaethau ynglŷn â’r posibiliadau yn ardal Yr Wyddfa. Un o’r heriau yw’r diffyg darpariaeth dŵr yfed ble y gallai ymwelwyr ail-lenwi eu poteli dŵr eu hunain. I’r perwyl hwn, rydym wedi cynnal nifer o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru, Cyngor Gwynedd ac eraill i weld beth sy’n ymarferol.

Gwirfoddolwyr Yr Wyddfa

Gwirfoddolwyr Yr Wyddfa

Elfen arall o’r gwaith yw cynnal ymchwil ar gyfer dadansoddi’r ymddygiad o adael sbwriel. Rydym yn hynod falch o dderbyn cefnogaeth gan Ganolfan Newid Ymddygiad Cymru, Prifysgol Bangor i’r gwaith hwn. Gyda’u harbenigedd, gobeithiwn gael gwell dealltwriaeth o’r ymddygiad gan adeiladu ein negeseuon o amgylch yr hyn â ddysgir.

Fe fydd y gwaith hwn yn adeiladu ar y gwaith arbennig sydd wedi ei gyflawni yn barod gan Gymdeithas Eryri fel rhan o Gynllun Yr Wyddfa.