Diweddariad partneriaid: chwefror 2022

Diweddariad partneriaid ar strategaeth parcio a thrafnidiaeth Yr Wyddfa ac Ogwen - Chwefror ‘22

 

Cwestiynau allweddol wedi’u hateb

1. A allwch amlinellu pa randdeiliaid yr ydych wedi siarad yn uniongyrchol â hwy, ac a oes rhai y gwyddoch y mae angen ichi eu cyrraedd o hyd?

Ar gyfer materion yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus, rydym wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Chynghorau Gwynedd a Chonwy a thimau amrywiol o fewn Trafnidiaeth Cymru (gan gynnwys y tîm bysiau, taliadau a thocynnau, cyfathrebu, a thîm Metro Gogledd Cymru) ac eraill megis tîm Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar yr ymgynghoriadau cyhoeddus cychwynnol a gynhaliwyd ym mis Mawrth-Ebrill 2021.

O ran Teithio Llesol a Beicio a Cherdded, rydym wedi cysylltu â nifer o randdeiliaid dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys Cynghorau Gwynedd a Chonwy, y Parc Cenedlaethol, Trafnidiaeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Sustrans, Llywodraeth Cymru ac ACGChC, yn ogystal â nifer o siopau beiciau lleol a busnes llogi beiciau. Byddwn yn parhau i gysylltu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth i ni symud ymlaen drwy'r prosiect hwn

2. Mae popeth hyd yn hyn yn mynd i'r afael ag 'ymwelwyr' a'r economi leol. Ni chyfeirir (hyd yn hyn) at bobl sy'n byw yn yr ardal neu o fewn pellter byr i'r parc, ac sy'n defnyddio'r parc yn rheolaidd. Ai'r bwriad yw eu bod yn cael eu trin fel 'ymwelwyr' ac yn cael eu gorfodi i ddilyn yr holl brotocolau 'ymwelwyr.' Cofiwch fod y rhan fwyaf o ymwelwyr yn ymweld am gyfnod byr iawn, tra gall pobl leol ddefnyddio'r parc bron bob dydd. Os bydd raid i bobl sy’n byw’n lleol ddilyn pob protocol ymwelwyr, heb gonsesiwn o ryw fath, byddai hyn yn gosb enfawr iddyn nhw.

Nace yn bendant. Mae'r strategaeth yn edrych ar reoli ymwelwyr yn well trwy gynnig gwasanaethau gwell er mwyn lleihau effeithiau negyddol gormod o gerbydau ar yr amgylchedd, profiad ymwelwyr ac ar ein cymunedau. Comisiynwyd y gwaith hwn yn dilyn pryderon gan ein cymunedau a’n partneriaid ynglŷn â’r pwysau aruthrol sy’n wynebu cymunedau oherwydd y lefelau uchel o gerbydau ar adegau penodol o’r flwyddyn. Nod y strategaeth yw cynnig manteision mawr i gymunedau megis gostyngiad mewn problemau parcio, gwell gwasanaethau bws a thrwyddedau trigolion i gynnwys mynediad gostyngol i wasanaethau ac atyniadau lleol.

3. A fydd y seilwaith trafnidiaeth yn darparu ar gyfer teithio 24/7 drwy gydol y flwyddyn, ar gyfer y rhai sy’n mynd i’r mynyddoedd am gyfnodau hir, ac a fydd hyn yn gweithredu mewn unrhyw dywydd, beth bynnag, i ddarparu ar gyfer dringwyr, ac ati?

Fel cam cyntaf, bydd bysiau'n gweithredu oriau hirach i ddiwallu anghenion ymwelwyr a phobl leol sydd am gychwyn yn gynt a / neu orffen yn hwyrach. Mater allweddol yw dibynadwyedd gwasanaethau fel y gall pobl ddibynnu ar amseroedd bysiau, yn enwedig bws olaf y dydd. Ar gyfer grwpiau sydd â gweithgareddau penodol fel teithiau addysgol neu ddringwyr mynydd, mae angen cynnal mynediad gyda bysiau mini a choetsis gyda lleoliadau parcio a chasglu priodol.

4. Beth yw’r amserlen a'r cynllun gweithredu?

Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru i gyflawni rhai o’r prosiectau cychwynnol. Fodd bynnag, mae angen buddsoddiad sylweddol i gyflawni’r weledigaeth. Gyda'r buddsoddiad hwnnw, yr amserlen gyflawni ar gyfer gweithredu'r holl argymhellion yw rhwng 5-10 mlynedd.

5. A fyddech cystal ag ystyried parcio rhatach/tymhorol i bobl leol.

Yn bendant. Un argymhelliad o’r adolygiad cychwynnol oedd datblygu trwyddedau i drigolion e.e. mynediad gostyngol i wasanaethau cyhoeddus ac atyniadau lleol. Byddwn yn ymgynghori ymhellach â thrigolion, partneriaid a busnesau ar sut y gallai hyn edrych wrth i'r gwaith ddatblygu.

 

beth yw’r cynigion parcio a thrafnidiaeth?

Mae’r cynigion yn amlinellu sut allai traffic, llygredd a sŵn gel ei lleihau’n aruthrol yn yr ardal fewnol yn ystod y tymor brig, wrth wella’r profiad ymweld yn sylweddol.

Mae’r cynigion a roddir ger bron yn yr Adolygiad Parcio a Thrafnidiaeth yn cynnwys:

  • Rheolaeth parcio dymhorol yn yr ‘ardal fewnol' gydag opsiynau rhag archebu;

  • Tocyn mynediad ymwelydd holl- gynhwysol fyddai’n annog defnydd o fusnesau lleol drwy brisiau gostyngedig a chynigion;

  • Fflyd newydd o fysiau carbon zero;

  • Trafod syniadau gyda chymunedau ar gyfer gwelliannau parcio yn y pentrefi pyrth;

  • Trawsnewid y ffordd mae gwybodaeth am barcio a mynediad yn cael ei gyfathrebu;

  • Isadeiledd gwefru cerbydau trydan;

  • Rheolaeth parcio ar y stryd a pharcio preswylwyr yn y pentrefi porth;

  • Gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, megis y rhwydwaith bysiau gwennol, cyfnewidfeydd â gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau pellter hir, gwelliannau rhwydwaith trafnidiaeth ehangach, a gwasanaethau trafnidiaeth ymatebol i'r galw o darddiad eraill;

  • Adolygu er gwell a gweithio gyda chyflenwyr tacsis;

  • Mannau parcio coetsys (bysus);

  • Mentrau cerdded a beicio;

  • Gwasanaethau cyflenwol eraill i wella profiad yr ymwelydd fel rhan o'r ethos o hyrwyddo mynediad cynaliadwy.

Cyflwyniad gan awdur yr adolygiad: Martin Higgitt.

Mae’r cynigion yma’n anelu i wneud y tirlun arbennig yn fwy hygyrch i ymwelwyr sydd heb gar, ac yn galluogi’r rheini sy’n cyrraedd gyda char i gael mynediad i’r ardal a’i atyniadau drwy ddulliau amgen.

Rhan ganolog o'r strategaeth yw bod cymunedau a busnesau yn cynorthwyo i ddylunio’r modd mae’r strategaeth yn cael ei gweithredu ar y ddaear. Unwaith y cytunir ar egwyddorion y dull gweithredu, cynhelir ymarferion cynllunio gyda thrigolion a busnesau yn y pentrefi porth i ystyried y ffordd orau o gyflawni'r elfennau sydd a wnelo’r strategaeth ar lawr gwlad.

Yn ystod 2020, fe aeth y tîm ymgynghori a benodwyd gan Bartneriaeth Yr Wyddfa ati i ddadansoddi’n fanwl yr amrywiol ffactorau sy’n ymwneud â’r materion parcio a thrafnidiaeth.

Mae'r adroddiad yn datgan bod yr orddibyniaeth bresennol ar geir i gael mynediad at safleoedd prysur a adwaenir fel rhai 'pot mêl' allweddol a’r broblem parcio gronig ar adegau prysur o’r flwyddyn yn fethiant yng nghyd-destun pwrpasau craidd y Parc Cenedlaethol. Mae hefyd yn golygu bod cymunedau lleol a'r economi leol yn dioddef effeithiau negyddol sy'n gysylltiedig â lefelau niferoedd yr ymwelwyr, ac nid ydynt yn cael cymaint o fudd ag y gallant ei gael.

O asesu'r dystiolaeth gefndirol, ynghyd â’r ymgynghoriadau, mae consensws clir nad yw ‘gwneud dim byd yn opsiwn’. Yn wir, mae yna awydd i osod Yr Wyddfa ac Ogwen, ac Eryri / Gogledd Cymru yn fwy cyffredinol, fel enghraifft o dwristiaeth gynaliadwy. Bydd opsiynau amgen yn methu â mynd i’r afael â’r problemau cronig y mae'r Wyddfa ac Ogwen yn eu profi yn ystod y tymor gwyliau brig, yn ogystal â methu â mynd i’r afael â chyfeiriad polisi’r Parc Cenedlaethol a pholisi rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae'r adolygiad yn argymell datblygu Dull Gweithredu Twristiaeth Gynaliadwy a fydd yn lleihau effaith amgylcheddol ymwelwyr ar y dirwedd warchodedig, ac ar yr un pryd, lleihau'r problemau a chynyddu buddion twristiaeth i gymunedau a'r economi leol, gan wella profiad yr ymwelydd a galluogi ystod fwy amrywiol o ymwelwyr i fwynhau'r ardal. Mae gogledd Cymru ac Eryri mewn sefyllfa berffaith i ymateb i rai o’r ‘tueddiadau-enfawr’ tymor hwy mewn twristiaeth sydd a wnelo dilysrwydd, gweithgaredd ac antur, ac eco-dwristiaeth. Gyda sylfaen mewn teithio gwyrdd, byddai hyn yn gosod gogledd Cymru yn gadarn ar lwyfan y byd fel cyrchfan gynaliadwy.

Jan Davies Photography

Jan Davies Photography

Mae'r cynigion drafft yn cyd-fynd yn llawn ag ethos Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn enwedig gyda'r pwyslais ar brif-gynllun cymunedol, gweithio mewn partneriaeth, annog sgiliau mentergarol a chreu swyddi ar gyfer cynulleidfaoedd lleol, wrth hyrwyddo a chynnal Rhinweddau Arbennig y Parc Cenedlaethol.

Byddai'r Dull Gweithredu Twristiaeth Gynaliadwy hwn yn trawsnewid sut mae'r ardal yn gweithredu ac yn cael ei hystyried fel cyrchfan. Yn sail i'r dull gweithredu hwn mae integreiddio, darparu gwasanaethau newydd ac ail-raddio'r gwasanaethau presennol. Mae galluogi cyflenwi blaengar o'r fath yn ymofyn strwythurau llywodraethu priodol ac ail-feddwl y model economaidd y darperir gwasanaethau ynddo. Argymhellir model llywodraethu newydd sy'n gyfle i'r ardal, a Chymru yn gyffredinol, i fod yn arwain y gad.

Fodd bynnag, bydd y dull gweithredu blaengar hwn o arwain y byd o ran rheoli ymwelwyr yn gofyn am gymorth refeniw cychwynnol a swm sylweddol o fuddsoddiad cyfalaf cyn iddo ddod yn gynaliadwy yn y tymor hir. Bydd atebion tymor hir i'r materion seilwaith yn golygu y bydd angen dull gweithredu amlasiantaethol a gweithio mewn partneriaeth gref er mwyn sicrhau llwyddiant.


Werfenweng, Awstria (the Alpine Pearls network)

Werfenweng, Awstria (the Alpine Pearls network)

Isod mae crynodeb o'r camau a gymerwyd hyd yma a'r camau nesaf yn y broses:

  • Deall y materion trwy gyfrwng cyfarfodydd ac ymweliadau safle; adolygiad polisi cynhwysfawr; dadansoddiad data o ymwelwyr, lletai, pob math o gyfleusterau trafnidiaeth a pharcio yn y rhanbarth; ac adolygiad o fentrau cysylltiedig eraill. Cwblhawyd ym mis Mawrth 2020.

  • Ymgynghoriad manwl ar draws pob sector yn ardal yr astudiaeth, gan gynnwys gweithdai. Cwblhawyd ym mis Mai 2020.

  • Mireinio'r adroddiad yn seiliedig ar ganfyddiadau Camau 1 a 2, gydag argymhellion llawn, cynllun gweithredu awgrymedig ac astudiaethau achos i'w cyflawni. Cwblhawyd ym mis Awst 2020.

  • Cyflwyno adolygiad i Weithgor Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn amlinellu argymhellion a strategaethau gweithredu posibl i gael adborth. Cwblhawyd ym mis Medi 2020.

  • Partneriaeth Yr Wyddfa i ystyried canfyddiadau'r adroddiad a'r camau nesaf. Cwblhawyd ym mis Medi 2020.

  • Cyflwyno diweddariad i Grŵp o Uwch Swyddogion Gogledd Cymru (Busnes) o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Cwblhawyd ym mis Medi 2020.

  • Cyflwyno diweddarid i Fforwm Twristiaeth Rhanbarth y Gogledd. Cwblhawyd yn Hydref 2020.

  • Cyflwyno diweddariad i Bwyllgor Craffu Economi a Lle Cyngor Bwrdeistrefol Conwy.

  • Gweithdy lefel uchel wedi'i hwyluso gyda chwaraewyr allweddol o bob sefydliad i archwilio'r goblygiadau llywodraethu ac ariannu. Hydref 2020.

  • Sicrhau buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru drwy Drafnidiaeth Cymru ar gyfer rhai o’r prosiectau cychwynnol:

    1. Gwaith meistr-gynllunio gyda’r pedwar pentref porth: Llanberis, Bethesda, Betws-y-Coed a Beddgelert. Cynhaliwd y gweithdai ar-lein ym Mawrth 2021 gyda’r mae’r broses ymgynhori yn parhau.

    2. Sefydlu system rhag-archebu awtomatig tymor canolig ar gyfer Pen y Pass.

    3. Astudiaeth trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn diffinio’r rhwydwaith a gweithrediad gwasanaeth bysus yn y dyfodol.

    4. Cynigion rhwydwaith beiciau a cherdded, a chynllun llogi beiciau.

    5. Datblygu system fonitro fyw, gadarn sy'n ysgafn o ran adnoddau ar gyfer traffig ar y ffordd i mewn i’r Parc ac yn y meysydd parcio.

Mae'r gwaith hwn yn cefnogi gweledigaeth hirdymor y Bartneriaeth ar gyfer Yr Wyddfa, yn ogystal â phwrpasau a dyletswydd ehangach Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri o ddiogelu'r dirwedd, hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad o'r ardal, a chefnogi lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol.

Cofrestru diddordeb

* gwybodaeth angenrheidiol

Mi fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparir ar y ffurflen yma i gysylltu â chi gyda diwedderiadau misol.

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy bwyso'r botwm tanysgrifio ar waelod unrhyw e-bost dderbyniwch gennym. Trwy glicio isod rydych yn caniatau i ni brosesu eich gwybodaeth yn gysylltiedig a'r telerau hyn.


Rydym yn defnyddio Mailchimp fel platfform marchnata. Drwy glicio i danysgrifio rydych yn cydnabod bydd eich gwybodaeth yn cael ei anfon at Mailchimp i'w brosesu.