mynydd eiconig sy’n adnabyddus dros y byd i gyd
Mae Yr Wyddfa yn gartref i gymunedau bywiog, egniol a brithwaith o ffermydd mynydd. Mae'n ased cenedlaethol a hwn yw mynydd mwyaf poblogaidd y DU o ran ymwelwyr, yn denu pobl o bob cwr o Gymru, y DU a ledled y byd. Mae gofalu am yr Wyddfa yn waith cymhleth ac mae cydweithio agos yn hanfodol at gyfer ei wneud yn llwyddiannus. Dyma pam i ni greu Cynllun Partneriaeth at gyfer y mynydd
Isod fe welwch ein cynllun ar gyfer dyfodol yr Wyddfa. Mae Adran 2 "Yr Wyddfa heddiw" yn cynnwys ystod eang o ddata ac ystadegau ar yr Wyddfa. Mae croeso i chi ail-gynhyrchu'r data hwn - gofynnwn i chi gyfeirio at Gynllun Partneriaeth yr Wyddfa fel y ffynhonnell. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
Yn adran 3 a 4, rydym yn nodi ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Os hoffech chi ein helpu i gyflawni unrhyw un o'r prosiectau hyn, rydym o hyd yn chwilio am fwy o help felly cysylltwch â ni!